Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (238) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.20
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Dyraniadau Canlyniadol Datganiad yr Hydref
Dechreuodd yr eitem am 14.58
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Addysg Uwch (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.27
NDM5659 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) adrannau 2 - 59
b) atodlen
c) adran 1
d) teitl hir
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – gwelliant i Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 2)
Dechreuodd yr eitem am 15.28
NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – taliadau ymadael y sector cyhoeddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 3)
Dechreuodd yr eitem am 15.32
NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Deddf Cychod Pysgota Prydeinig 1983 Deddf Pysgodfeydd 1868 a Deddf Pysgodfeydd 1891 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 5)
Dechreuodd yr eitem am 15.35
NDM5657 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, gytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n berthnasol i bysgodfeydd a physgota i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i atal dros dro Rheol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei thrafod (5 munud)
Dechreuodd yr eitem am 15.36
NNDM5662 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5661 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NNDM5661 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2015-16
Dechreuodd yr eitem am 15.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5658 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2015-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
5 |
22 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
10Dadl: Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14
Dechreuodd yr eitem am 16.25
NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol (2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Ionawr 2015.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i wella mynediad i wasanaethau CAMHS; a
b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at effaith diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol (2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Ionawr 2015.
2. Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i wella mynediad i wasanaethau CAMHS; a
b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.
6. Yn gresynu at effaith diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.
8. Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
11Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Daeth y cyfarfod i ben am 17.27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2015